Owain Glyndwr – Gwern y Batto and Llansantffraid-ym-Mechain
Y gred a dderbynnir yn eang, ac a gydnabyddir fel ffaith gan rai gwybodusion, ydyw mai rebel ydoedd Owain Glyndwr (Owain ap Gruffydd, Arglwydd Glyndyfrdwy), wedi ei symbylu i gymryd i fyny wi gleddyf yn dilyn ffrae gyda’i gymydog Reginald de Grey; ond mae gwir angen ail-asesu’r dybiaeth honno. Roedd Owain Glyndwr yn deyrngar i’r Brenin Rhisiart yr Ail, ac roedd wedi cyflawni gwasanaeth milwrol yn yr Alban ac yn Iwerddon. Y tebygrwydd yw bod Owain gyda Rhisiart pan ddychwelsai’r brenin o ymgyrchu yn Yr Ynys Werdd (Iwerddon), a hefyd pan ildiodd y brenin i Henry Bollingbroke (yn ddiweddarach y Brenin Harri’r Pedwerydd) yng Nghastell Fflint yn y flwyddyn 1399. Os felly, yna Bollingbroke ydoedd y rebel, ac felly gellid ystyried Glyndwr fel gwrth-chwyldrowr, a’i fryd ar ddial a thalu’r pwyth yn ol am lofruddiad Rhisiart.
Yn ystod mis Medi’r flwyddyn 1400 anrheithiodd Owain Glyndwr dregi’r Rhuthun, Rhuddlan, Fflint, Penarlag, Croesoswallt a’r Trallwng. Hefyd, dinistriodd fynachlog Ystrad Marchell ar lannau’r Afon Hafren, cyn araf ddychwelyd yn bwyllog yn ei ol i’w ganolfan yn Sycharth; gan frwiadu croesi’r Afon Efyrnwy naill ai ger Llansantffraid-ym-Mechain neu ger Llanymynaich ym Mhowys fodern. Yn y cyfamser, roedd Hugh Burnell, Siryf Swydd Amwythig, wedi prysuro’n ddiwyd i recriwtio dynion o Swydd Gaerwrangon, Swydd Stafford a Swydd Amwythig; ac roedd wedi ffurfio byddin fawr i’r perwyl o ymlid Owain Glyndwr. Gan gychwyn i gyfeiriad gorchllewinol allan o dref Amwythig, bu iddynt groesi’r Afon Hafren yn Landrinio, gyda’r bwriad o ragodi carfan ystlys dde o osgordd Owain yn y cyffiniau hynnu.. Y tebygrwydd yw i’r gwrthdaro cyntaf ddigwydd yng Ngwern y Batto (‘Batto ‘ < Battle: ‘tir corslyd y frwydr’?), cyn symyd ymlaen at laddfa frwd a ffyrnig yn Landantffraid. Yno y cafodd Owain Glyndwr ei drechu’n drwm, a chwalwyd ei fyddin i gyfeiriadau gorllewinol. Mewn ffynonellau sydd ar gael a chadw yn yr iaith Gymraeg, fe gyfeirir at y frwydyr hon fel ‘Y Gyflafan ger Efyrnwy’.
The widely accepted belief, held in some quarters, that Owain Glyndwr was a rebel and motivated to take up the sword as a result of an arguement with his neighbour Reginald de Grey, needs to be reassessed. Glyndwr was loyal to King Richard II and had done military service in Scotland and Ireland. He was probably with Richard when the king returned from campaigning in Ireland and also when the king surrendered to Henry Bolingbroke (later Henry IV) at Flint Castle in 1399. Thus Bolingbroke was the rebel and Glyndwr could therefore be considered a counter-revolutionary out to avenge the murder of Richard.
During September 1400 Glyndwr sacked the towns of Ruthin, Rhuddlan, Flint, Hawarden, Oswestry and Welshpool. He also destroyed the monastry of Strata Marcella on the River Severn before making slow progress back to his base at Sycharth, intending to cross the River Vyrnwy either at Llansantffraid or Llanymynach. Meanwhile Hugh Burnell, sheriff of Shropshire, hastily recruited men from Worcestershire, Staffordshire and Shropshire, and formed a great army in pursuit of Glyndwr. Heading westwards from Shrewsbury, they crossed the Severn at Llandrinio with the intention of intercepting Glyndwr’s right flank. The first conflict possibly took place at Gwern y Batto (Marshy ground of Battle?), followed by a running battle to Llansantffraith. Glyndwr was heavily defeated and his army scattered westwards. Welsh sources refer to the battle as the Slaughter in Vyrnwy.